8 Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda cleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr.
9 Dyma fe'n cyfarch Amasa, “Sut wyt ti frawd?” Yna gafaelodd ym marf Amasa gyda'i law dde wrth ei gyfarch gyda chusan.
10 Doedd Amasa ddim wedi sylwi ar y dagr oedd yn llaw chwith Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol nes i'w berfedd dywallt ar lawr. Doedd dim rhaid ei drywanu yr ail waith, roedd yr ergyd gyntaf wedi ei ladd.Yna dyma Joab a'i frawd Abishai yn mynd yn ei blaenau ar ôl Sheba fab Bichri.
11 Dyma un o swyddogion ifanc Joab yn sefyll wrth gorff Amasa a gweiddi, “Pawb sydd o blaid Joab ac yn cefnogi Dafydd, dilynwch Joab!”
12 (Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto.
13 Wedi i'r corff gael ei symud o'r ffordd dyma'r fyddin i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Sheba fab Bichri.
14 Roedd Sheba wedi teithio o gwmpas llwythau Israel i gyd, a cyrraedd Abel-beth-maacha. Roedd y llwythau eraill wedi ei wrthod, ond cafodd ei bobl ei hun, y Bichriaid, i'w ganlyn.