1 Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r ARGLWYDD ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul:
2 Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi,yn gastell ac yn achubwr.
3 Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.Mae'n fy achub i rhag trais.
4 Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli,ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
5 Roeddwn i'n boddi dan donnau marwolaeth;roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
6 Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas,a maglau marwolaeth o'm blaen.