10 Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
11 Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan;a codi ar adenydd y gwynt.
12 Gwisgodd dywyllwch drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.
13 Roedd golau disglair o'i flaena'r mellt fel marwor tanllyd.
14 Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.
15 Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
16 Daeth gwely'r môr i'r golwg;ac roedd sylfeini'r ddaear yn noethwrth i'r ARGLWYDD ruo,a chwythu anadl o'i ffroenau.