17 Estynnodd i lawr o'r ucheldera gafael ynof fi;tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
18 Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig –y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
19 Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.
20 Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
21 Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lân,ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
22 Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
23 Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.