20 Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
21 Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lân,ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
22 Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
23 Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
24 Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
25 Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
26 Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon,ac yn deg â'r rhai di-euog.