27 Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
28 Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.
29 Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD,ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
30 Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
31 Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
32 Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
33 Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.