30 Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
31 Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
32 Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
33 Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
34 Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
35 Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!
36 Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.