32 Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
33 Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
34 Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
35 Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!
36 Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
37 Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.
38 Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.