36 Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
37 Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.
38 Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
39 Bydda i'n eu dinistrio a'u taro,nes byddan nhw'n methu codi;bydda i'n eu sathru nhw dan draed.
40 Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;
41 Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
42 Roedden nhw'n edrych am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.