40 Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;
41 Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
42 Roedden nhw'n edrych am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.
43 Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr;a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.
44 Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.
45 Mae estroniaid yn crynu o'm blaen.Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i!
46 Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.