46 Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
47 Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw!Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
48 Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
49 Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
50 Felly, O ARGLWYDD,bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloeddac yn canu mawl i dy enw:
51 Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin –un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog –i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.