8 Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynuac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.
9 Daeth mwg allan o'i ffroenau,a thân dinistriol o'i geg;roedd marwor yn tasgu ohono.
10 Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
11 Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan;a codi ar adenydd y gwynt.
12 Gwisgodd dywyllwch drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.
13 Roedd golau disglair o'i flaena'r mellt fel marwor tanllyd.
14 Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.