14 Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”
15 Felly'r bore hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw.
16 Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)
17 Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!”
18 Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.”
19 Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Gad.
20 Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n mynd ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr.