3 Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?”
4 Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud.
5 Dyma nhw'n croesi Afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser.
6 Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Ïon, a rownd i Sidon.
7 Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda.
8 Cymerodd naw mis a tair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio trwy'r wlad i gyd.
9 Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna wyth can mil o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a pum can mil yn Jwda.