5 Dyma nhw'n croesi Afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser.
6 Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Ïon, a rownd i Sidon.
7 Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda.
8 Cymerodd naw mis a tair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio trwy'r wlad i gyd.
9 Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna wyth can mil o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a pum can mil yn Jwda.
10 Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”
11 Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys: