7 Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda.
8 Cymerodd naw mis a tair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio trwy'r wlad i gyd.
9 Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna wyth can mil o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a pum can mil yn Jwda.
10 Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”
11 Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys:
12 “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”
13 Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu tri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu tri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”