1 Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a pobl Dafydd ymlaen am hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach.
2 Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron.Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
3 Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.
4 Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
5 Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd.Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.