16 A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl.
17 Yn y cyfamser roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin.
18 Wel, gwnewch hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’”
19 Yna ar ôl mynd i gael gair gyda phobl Benjamin, dyma Abner yn mynd i Hebron i ddweud wrth Dafydd beth oedd Israel a llwyth Benjamin wedi ei gytuno.
20 Aeth â dau ddeg o ddynion gydag e, a dyma Dafydd yn cynnal gwledd iddyn nhw.
21 Dyma Abner yn dweud wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon.
22 Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.)