22 Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.)
23 Pan ddaeth Joab a'i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.
24 Dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud, “Beth wyt ti'n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd!
25 Ti'n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti'n ei wneud!”
26 A dyma Joab yn mynd allan oddi wrth Dafydd ac anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl. Daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.)
27 Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yno dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel.
28 Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai.