32 a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crïo'n uchel wrth fedd Abner, a dyma bawb arall yn crïo hefyd.
33 Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner:“Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?
34 Doeddet ddim wedi dy glymu;doedd dy draed ddim mewn cyffion;Ond syrthiaist fel dyn wedi ei ladd gan rai drwg.”A dyma pawb yn wylo drosto eto.
35 Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond dyma Dafydd yn mynd ar ei lw. “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”
36 Roedd hyn wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw.
37 Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i'w wneud â llofruddiaeth Abner fab Ner.
38 A dyma'r brenin yn dweud wrth ei swyddogion, “Ydych chi'n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw?