4 Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
5 Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd.Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.
6 Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul.
7 Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda partner fy nhad?”
8 Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Dw i wedi bod yn ffyddlon hyd heddiw i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau. Dw i ddim wedi dy fradychu di i ochr Dafydd. A dyma ti heddiw yn fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!
9 Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi ei addo iddo.
10 Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.”