9 Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi ei addo iddo.
10 Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.”
11 Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner.
12 Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.”
13 Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei di ddod ata i wedyn.”
14 Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi.”
15 Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish.