5 Dyma Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, yn mynd i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi'n ganol dydd a'r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys.
6 Aethon nhw i mewn i'w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, a dyma nhw'n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma'r ddau yn dianc.
7 Roedden nhw wedi mynd i'r tŷ tra roedd Ish-bosheth yn ei ystafell, yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a'i ladd, dyma nhw'n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a teithio drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba.
8 Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.”
9 Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt.
10 Pan ddaeth rhyw ddyn ata i i Siclag i ddweud fod Saul wedi marw, roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond dyma fi'n gafael ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd e am ei ‛newyddion da‛!
11 Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra roedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a'ch difa chi oddi ar wyneb y ddaear yma!”