1 Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw.
2 Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.
3-4 Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen.
5 Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen yr ARGLWYDD, a canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau.