6 Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw.
7 Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw.
8 Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.
9 Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr ARGLWYDD ddod ata i?” meddai.
10 Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr ARGLWYDD fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.
11 Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd.
12 Daeth Dafydd i glywed fod yr ARGLWYDD wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma Dafydd yn mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr.