14 Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Pan fydd e'n gwneud drwgbydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi.
15 Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo,yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
16 Bydd dy deulu di yn teyrnasu o'm blaen i am byth.Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”
17 Felly dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.
18 A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD Pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!
19 Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD?
20 Beth alla i ddweud? Ti'n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD.