20 Beth alla i ddweud? Ti'n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD.
21 Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma, a dweud wrtho i amdanyn nhw.
22 “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti!
23 A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.
24 “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.
25 Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo.
26 Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig,