23 A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.
24 “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.
25 Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo.
26 Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig,
27 am dy fod ti, yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo fel hyn arnat ti.
28 Nawr, ARGLWYDD, fy meistr, ti ydy'r Duw go iawn, ac mae dy eiriau di'n wir. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i mi.
29 Felly, plîs bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth. Meistr, ARGLWYDD, am mai ti sy'n bendithio, bydd dy fendith yn aros ar fy llinach i am byth.”