1 Dyma adroddiad gan Nehemeia fab Hachaleia:Roedd hi'n fis Cislef yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan.
2 Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i'm gweld i. A dyma fi'n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem.
3 A dyma nhw'n ateb, “Mae hi'n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i'r dalaith o'r gaethglud. Maen nhw'n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi ei chwalu, a'r giatiau wedi eu llosgi.”
4 Pan glywais hyn i gyd, dyma fi'n eistedd i lawr. Roeddwn i'n crïo ac yn galaru am ddyddiau, a bues i'n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd.
5 A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw y nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud.