1 Roedd y wal wedi ei gorffen, drysau'r giatiau wedi eu gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi eu penodi.
2 A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl.
3 Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”
4 Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi eu hadeiladu ynddi bryd hynny.
5 A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd.Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi ei gofnodi:
6 Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.
7 Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana.Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
8 Teulu Parosh: 2,172
9 Teulu Sheffateia: 372
10 Teulu Arach: 652
11 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818
12 Teulu Elam: 1,254
13 Teulu Sattw: 845
14 Teulu Saccai: 760
15 Teulu Binnŵi: 648
16 Teulu Bebai: 628
17 Teulu Asgad: 1,322
18 Teulu Adonicam: 667
19 Teulu Bigfai: 2,067
20 Teulu Adin: 655
21 Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
22 Teulu Chashŵm: 328
23 Teulu Betsai: 324
24 Teulu Chariff: 112
25 Teulu Gibeon: 95
26 Dynion Bethlehem a Netoffa: 188
27 Dynion Anathoth: 128
28 Dynion Beth-asmafeth: 42
29 Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743
30 Dynion Rama a Geba: 621
31 Dynion Michmas: 122
32 Dynion Bethel ac Ai: 123
33 Pobl y Nebo arall: 52
34 Pobl yr Elam arall: 1,254
35 Pobl Charîm: 320
36 Pobl Jericho: 345
37 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721
38 Pobl Sena'a: 3,930
39 Yr offeiriaid:Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
40 Teulu Immer: 1,052
41 Teulu Pashchwr: 1,247
42 Teulu Charîm: 1,017
43 Y Lefiaid:Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74
44 Y cantorion:Teulu Asaff: 148
45 Gofalwyr y giatiau:Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138
46 Gweision y deml:Teulu SichaTeulu ChaswffaTeulu Tabbaoth
47 Teulu CerosTeulu SïaTeulu Padon
48 Teulu LebanaTeulu HagabaTeulu Shalmai
49 Teulu ChananTeulu GidelTeulu Gachar
50 Teulu ReaiaTeulu ResinTeulu Necoda
51 Teulu GassamTeulu WssaTeulu Paseach
52 Teulu BesaiTeulu MewnimTeulu Neffwshesim
53 Teulu BacbwcTeulu ChacwffaTeulu Charchwr
54 Teulu BatslithTeulu MechidaTeulu Charsha
55 Teulu BarcosTeulu SiseraTeulu Temach
56 Teulu NetsïachTeulu Chatiffa.
57 Teuluoedd gweision Solomon:Teulu SotaiTeulu SofferethTeulu Perida
58 Teulu JalaTeulu DarconTeulu Gidel
59 Teulu SheffateiaTeulu ChattilTeulu Pochereth-hatsbaîmTeulu Amon.
60 Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.
61 Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
62 Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652
63 Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).
64 Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.
65 Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.
66 Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,
67 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).
68-69 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.
70 Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
71 Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian.
72 Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.
73 Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.Pan ddaeth y seithfed mis, aeth pobl Israel o'u trefi