Nehemeia 2 BNET

Nehemeia'n gofyn am gael mynd i Jerwsalem

1 Yna yn mis Nisan yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ron i'n gweini ar y brenin fel arfer, a mynd â gwin iddo. Ond dyma'r tro cyntaf i mi erioed edrych yn drist o'i flaen.

2 A dyma'r brenin yn gofyn i mi, “Pam wyt ti'n edrych mor ddiflas? Dwyt ti ddim yn sâl. Ond mae'n amlwg fod rhywbeth yn dy boeni di.”Pan ddwedodd hynny, roedd gen i ofn.

3 A dyma fi'n ei ateb, “O frenin, boed i ti fyw am byth! Sut alla i beidio edrych yn drist pan mae'r ddinas ble mae fy hynafiaid wedi eu claddu yn adfeilion, a'i giatiau wedi eu llosgi?”

4 A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth wyt ti eisiau gen i?” Dyma fi'n gweddïo'n dawel ar Dduw y nefoedd,

5 ac yna dweud wrth y brenin, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, ac os ydy'ch gwas wedi'ch plesio chi, plîs anfonwch fi yn ôl i Jwda lle mae fy hynafiaid wedi eu claddu, i adeiladu'r ddinas eto.”

6 Yna dyma'r brenin, gyda'i wraig yn eistedd wrth ei ymyl, yn gofyn, “Am faint fyddet ti i ffwrdd, a pryd fyddet ti yn ôl?” Gan fod y brenin yn barod i adael i mi fynd, dyma fi'n rhoi dyddiad iddo.

7 A dyma fi'n dweud wrtho, “Os ydy'ch mawrhydi yn gweld yn dda, wnewch chi roi dogfennau i mi eu dangos i lywodraethwyr Traws-Ewffrates, i wneud yn siŵr fy mod yn cyrraedd Jwda'n saff.

8 Hefyd, llythyr i Asaff, sy'n gofalu am goedwig y brenin, iddo roi coed i mi – coed i wneud trawstiau ar gyfer giatiau'r gaer sydd wrth ymyl y deml, waliau'r ddinas, a'r tŷ fydda i'n aros ynddo.” A dyma'r brenin yn rhoi caniatâd i mi, achos roedd hi'n amlwg fod Duw gyda mi.

Nehemeia am ailadeiladu'r waliau

9 Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a cyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi.

10 Ond doedd Sanbalat o Horon, a Tobeia (y swyddog o Ammon), ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi cael ei anfon i helpu pobl Israel.

11 Dri diwrnod ar ôl i mi gyrraedd Jerwsalem,

12 dyma fi'n codi ganol nos a mynd allan gyda'r ychydig ddynion oedd gen i. Yr unig anifail oedd gyda ni oedd yr un roeddwn i'n reidio ar ei gefn. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb beth roedd Duw wedi rhoi awydd yn fy nghalon i i'w wneud yn Jerwsalem.

13 Dyma fi'n mynd allan drwy Giât y Dyffryn ganol nos, a troi i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig a Giât y Sbwriel i edrych ar gyflwr y waliau oedd wedi eu chwalu a'r giatiau oedd wedi eu llosgi.

14 Es ymlaen at Giât y Ffynnon a Pwll y Brenin, ond wedyn doedd dim posib i'r anifail fynd ddim pellach.

15 Tra roedd hi'n dal yn dywyll dyma fi'n mynd i lawr i ddyffryn Cidron ac edrych ar gyflwr y waliau o'r fan honno. Wedyn trois yn ôl, a mynd yn ôl i'r ddinas drwy Giât y Dyffryn.

16 Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn – yr offeiriaid, y bobl fawr na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr.

17 Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd ydy pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a'i giatiau wedi eu llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.”

18 Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi ei ddweud wrtho i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma.

19 Ond pan glywodd Sanbalat o Horon, Tobeia, y swyddog o Ammon, a Geshem yr Arab am ein cynlluniau, dyma nhw'n dechrau gwneud hwyl ar ein pennau a'n henllibio ni. “Beth dych chi'n wneud? Ydych chi'n meddwl gwrthryfela yn erbyn y brenin?”

20 A dyma fi'n ateb, “Gyda help Duw byddwn ni'n llwyddo. Ei weision e ydyn ni, a dŷn ni'n mynd i ddechrau ailadeiladu'r ddinas yma. Does yna ddim lle i chi yma, a dych chi erioed wedi bod â hawl i Jerwsalem.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13