Nehemeia 12 BNET

Rhestr o offeiriaid a Lefiaid

1 Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa:Seraia, Jeremeia, Esra,

Offeiriaid:

2 Amareia, Malŵch, Chattwsh,

3 Shechaneia, Rechwm, Meremoth,

4 Ido, Gintoi, Abeia,

5 Miamin, Maadia, Bilga

6 Shemaia, Ioiarîf, Idaïa,

7 Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa.(Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a'i cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.)

Lefiaid:

8 Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.

9 Bacbwceia ac Wnni a'u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.

Disgynyddion Ieshŵa

10 Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacim, Ioiacim yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada,

11 Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa.

Arweinwyr claniau'r offeiriaid

12-21 Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacim yn archoffeiriad:Offeiriad Clan Meraia – o glan Seraia Chananeia – o glan Jeremeia Meshwlam – o glan Esra Iehochanan – o glan Amareia Jonathan – o glan Malwch Joseff – o glan Shefaneia Adna – o glan Charîm Chelcai – o glan Meraioth Sechareia – o glan Ido Meshwlam – o glan Ginnethon Sichri – o glan Abeia … – o glan Miniamîn Piltai – o glan Moadeia Shammwa – o glan Bilga Jonathan – o glan Shemaia Matenai – o glan Ioiarîf Wssi – o glan Idaïa Calai – o glan Salw Eber – o glan Amoc Chashafeia – o glan Chilceia Nethanel – o glan Idaïa

Cofnod o glaniau yr offeiriaid a'r Lefiaid

22 Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia).

23 Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.

24 Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, Binnŵi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)

25 Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau.

26 Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacim (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith.

Cysegru Waliau Jerwsalem

27 Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau.

28 Roedd y cantorion wedi eu casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a pentrefi Netoffa,

29 Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw eu hunain o gwmpas Jerwsalem.)

30 Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal.

31 Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel.

32 Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda.

33 Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam,

34 Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia –

35 offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff)

36 a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma).

37 Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain.

38 Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan,

39 dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.

40 Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi,

41 a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia.

42 Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa.

43 Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell.

Penodi dynion i gasglu'r cyfraniadau

44 Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu.

45 Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn.

46 Ers pan oedd y brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a'r caneuon o fawl a diolch i Dduw.

47 Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i'r cantorion a'r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i'r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13