Nehemeia 5 BNET

Cam-drin pobl dlawd

1 Ond wedyn dyma rai o'r dynion a'u gwragedd yn dechrau cwyno a protestio am eu cyd-Iddewon.

2 Roedd rhai yn dweud, “Mae gynnon ni deuluoedd mawr, ac mae angen lot o ŷd arnon ni i allu bwyta a byw.”

3 Roedd eraill yn dweud, “Dŷn ni'n gorfod morgeisio ein tir a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd i osgoi llwgu.”

4 Ac eraill eto, “Dŷn ni wedi gorfod benthyg arian i dalu trethi i'r brenin ar ein tir a'n gwinllannoedd.

5 Dŷn ni wedi gorfod rhoi ein meibion a'n merched i weithio fel caethweision i bobl er ein bod ni a'n plant o'r un genedl ac yn rhannu'r un gwaed â nhw. Mae rhai o'n merched wedi cael eu cymryd oddi arnon ni, a dŷn ni'n gallu gwneud dim am y peth, am fod ein tir a'n gwinllannoedd yn nwylo pobl eraill.”

6 Roeddwn i'n wyllt pan glywais i am hyn i gyd.

7 Yna ar ôl ystyried y sefyllfa'n ofalus, dyma fi'n penderfynu mynd at y bobl fawr a'r swyddogion i gwyno: “Dych chi i gyd yn codi llogau ar ddyledion eich pobl eich hunain!”A dyma fi'n galw cyfarfod cyhoeddus i ddelio gyda'r peth.

8 Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi eu gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu eich pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb.

9 Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn!

10 Dw i a'm perthnasau a'r rhai sydd gyda ni yn benthyg arian ac ŷd i bobl. Rhaid stopio'r busnes yma o gymryd tir a thai pobl i dalu dyledion!

11 Rhowch bopeth yn ôl iddyn nhw heddiw – eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd a'u tai, a'r llogau dych chi'n eu cymryd am fenthyg arian, ŷd, sudd grawnwin, ac olew olewydd iddyn nhw.”

12 A dyma nhw'n ateb, “Gwnawn ni roi'r cwbl yn ôl, a stopio hawlio dim oddi arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud.” Yna dyma fi'n galw am offeiriaid a gwneud i'r bobl gyfoethog a'r swyddogion fynd ar eu llw y bydden nhw'n cadw eu gair.

13 A dyma fi'n ysgwyd popeth o bocedi fy nillad, a dweud, “Dyma fydd Duw yn ei wneud i chi os fyddwch chi ddim yn cadw eich gair. Byddwch yn colli eich tai a'ch eiddo. Bydd yn eich ysgwyd chi a byddwch yn colli popeth!” A dyma pawb yn y gynulleidfa yn ateb, “Ia, wir! Amen!” ac addoli'r ARGLWYDD. Yna gwnaeth y bobl beth roedden nhw wedi ei addo.

Haelioni Nehemeia

14 O'r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda – sef o'r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) – wnes i a'm teulu ddim bwyta'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr.

15 Roedd y llywodraethwyr o'm blaen i wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, a chymryd bwyd a gwin oddi arnyn nhw ar ben y dreth o 40 darn arian. Roedd eu staff yn galed ar y bobl hefyd. Ond wnes i ddim ymddwyn felly, am fy mod i'n parchu Duw.

16 Es i ati fel pawb arall i weithio ar y wal, a wnes i ddim prynu tir i mi fy hun. Ac roedd fy staff i gyd yn gweithio yno hefyd.

17 Roedd cant a hanner o bobl, swyddogion yr Iddewon, yn bwyta gyda mi'n rheolaidd, heb sôn am ymwelwyr oedd yn dod o wledydd eraill.

18 Bob dydd roedd un ychen, chwech o'r defaid gorau, a ffowls yn cael eu paratoi i mi, heb sôn am ddigonedd o win o bob math oedd yn cael ei roi i mi bob deg diwrnod. Er hynny, wnes i ddim hawlio'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr, am fod y baich yn drwm ar y bobl.

19 O Dduw, cofia hyn o'm plaid i – popeth dw i wedi ei wneud i'r bobl yma.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13