1 Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill.
2 A dyma'r bobl yn bendithio'r dynion hynny wnaeth wirfoddoli i aros yn Jerwsalem.
3 Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda – a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon.
4 Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.)O lwyth Jwda:Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets);
5 Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda).
6 (Cyfanswm disgynyddion Perets, y bobl ddewr wnaeth setlo yn Jerwsalem oedd 468.)
7 O lwyth Benjamin:Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,)
8 a'r rhai oedd yn ei ddilyn, Gabai a Salai – 928 i gyd.
9 (Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.)
10 O'r offeiriaid:Idaïa fab Ioiarîf, Iachin,
11 Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw,
12 a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml – 822.Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa),
13 a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan – 242;Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,)
14 a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e – 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw).
15 O'r Lefiaid:Shemaia fab Chashwf (mab Asricam, mab Chashafeia fab Bwnni);
16 Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw;
17 Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl;Bacbwceia oedd ei ddirprwy; acAfda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn).
18 (Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284).
19 Yna gofalwyr y giatiau:Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172.
20 Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda.
21 Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.
22 Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw.
23 Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd.
24 Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl.
25 I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw:Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi,
26 Ieshŵa, Molada, Beth-pelet,
27 Chatsar-shwal, a Beersheba a'i phentrefi,
28 Siclag a Mechona a'i phentrefi,
29 En-rimmon, Sora, Iarmwth,
30 Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd.
31 Dyma bobl llwyth Benjamin yn setlo yn Geba, Michmas, Ai, a Bethel a'i phentrefi,
32 yn Anathoth, Nob, Ananeia,
33 Chatsor, Rama, Gittaïm,
34 Hadid, Seboïm, Nefalat,
35 Lod, Ono, a Dyffryn y Crefftwyr.
36 A dyma rai o'r Lefiaid oedd yn Jwda yn symud i fyw i Benjamin.