5 A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw y nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud.
6 O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a'm teulu, a pobl Israel i gyd.
7 Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, ac heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses.
8 Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd.
9 Ond os byddwch chi'n troi a gwneud beth dw i'n ddweud, hyd yn oed os ydy'r bobl wedi eu chwalu i ben draw'r byd, bydda i'n eu casglu nhw yn ôl i'r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’
10 Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i'w gollwng nhw'n rhydd.
11 Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy'n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i'r dyn yma fod yn garedig ata i.”Fi oedd y wetar oedd yn dod â gwin i'r brenin.