22 Plateia, Chanan, Anaia,
23 Hoshea, Chananeia, Chashwf,
24 Halochesh, Pilcha, Shofec,
25 Rechwm, Chashafna, Maaseia,
26 Achïa, Chanan, Anan,
27 Malŵch, Charîm, a Baana.
28-29 Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a pawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a pawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau.