Nehemeia 10:26-33 BNET

26 Achïa, Chanan, Anan,

27 Malŵch, Charîm, a Baana.

28-29 Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a pawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a pawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau.

30 “Wnawn ni ddim rhoi ein merched yn wragedd i'r bobl baganaidd o'n cwmpas, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'n meibion ni.

31 Os bydd y bobloedd eraill yn ceisio gwerthu grawn neu unrhyw nwyddau ar y Saboth (neu ddiwrnod cysegredig arall) wnawn ni ddim prynu ganddyn nhw.Bob saith mlynedd byddwn ni'n gadael ein caeau heb eu trin ac yn canslo pob dyled.

32 Dŷn ni hefyd yn derbyn fod rhaid talu treth flynyddol o un rhan o dair o sicl (sef bron 4 gram o arian) i deml Dduw.

33 Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau – yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml.