Nehemeia 10:32-38 BNET

32 Dŷn ni hefyd yn derbyn fod rhaid talu treth flynyddol o un rhan o dair o sicl (sef bron 4 gram o arian) i deml Dduw.

33 Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau – yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml.

34 Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith.

35 A dŷn ni'n addo hefyd y byddwn ni, bob blwyddyn, yn dod â ffrwythau cyntaf y tir a ffrwyth cyntaf pob coeden i deml yr ARGLWYDD.

36 Byddwn ni hefyd yn dod â'n meibion hynaf, a'r anifeiliaid cyntaf i gael eu geni, i deml Dduw i'w cyflwyno i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno, fel mae'r Gyfraith yn dweud.

37 Byddwn hefyd yn rhoi y gorau o'n toes, grawn, ffrwythau, sudd grawnwin ac olew olewydd, i'r offeiriaid yn stordai teml ein Duw. A hefyd un rhan o ddeg o'n cnydau i'w rhoi i'r Lefiaid (gan mai'r Lefiaid sy'n casglu'r ddegfed ran yn y trefi lle dŷn ni'n gweithio.)

38 Bydd offeiriad – un o ddisgynyddion Aaron – gyda'r Lefiaid pan mae'r gyfran yma'n cael ei gasglu. Yna bydd y Lefiaid yn mynd â degfed ran o'r hyn gasglwyd i stordai teml Dduw.