12-21 Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacim yn archoffeiriad:Offeiriad Clan Meraia – o glan Seraia Chananeia – o glan Jeremeia Meshwlam – o glan Esra Iehochanan – o glan Amareia Jonathan – o glan Malwch Joseff – o glan Shefaneia Adna – o glan Charîm Chelcai – o glan Meraioth Sechareia – o glan Ido Meshwlam – o glan Ginnethon Sichri – o glan Abeia … – o glan Miniamîn Piltai – o glan Moadeia Shammwa – o glan Bilga Jonathan – o glan Shemaia Matenai – o glan Ioiarîf Wssi – o glan Idaïa Calai – o glan Salw Eber – o glan Amoc Chashafeia – o glan Chilceia Nethanel – o glan Idaïa
22 Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia).
23 Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.
24 Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, Binnŵi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)
25 Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau.
26 Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacim (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith.
27 Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau.