31 Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel.
32 Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda.
33 Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam,
34 Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia –
35 offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff)
36 a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma).
37 Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain.