39 dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.
40 Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi,
41 a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia.
42 Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa.
43 Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell.
44 Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu.
45 Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn.