18 Onid dyma sut roedd eich hynafiaid yn ymddwyn, a gwneud i Dduw ddod â'r holl helynt arnon ni a'r ddinas yma? A dyma chi nawr yn gwneud pethau'n waeth, a gwneud Duw'n fwy dig eto gydag Israel drwy halogi'r Saboth fel yma!”
19 Dyma fi'n gorchymyn fod giatiau Jerwsalem i gael eu cau pan oedd hi'n dechrau tywyllu cyn y Saboth, a ddim i gael eu hagor nes byddai'r Saboth drosodd. Yna dyma fi'n gosod rhai o'm dynion fy hun i warchod y giatiau a gwneud yn siŵr fod dim nwyddau yn dod i mewn ar y Saboth.
20 Arhosodd y masnachwyr a'r rhai oedd yn gwerthu gwahanol nwyddau tu allan i Jerwsalem dros nos unwaith neu ddwy.
21 Ond dyma fi'n eu rhybuddio nhw, “Os gwnewch chi aros yma dros nos wrth y wal eto, bydda i'n eich arestio chi!” Wnaethon nhw ddim dod yno ar y Saboth o hynny ymlaen.
22 Yna dyma fi'n dweud wrth y Lefiaid am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a dod i warchod y giatiau er mwyn cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, cysegredig.O Dduw, plîs cofia fy mod i wedi gwneud hyn. Dangos dy gariad rhyfeddol ata i drwy fy arbed i.
23 Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod fod llawer o Iddewon wedi priodi merched o Ashdod, Ammon a Moab.
24 Roedd hanner y plant yn siarad iaith Ashdod neu ieithoedd rhyw bobloedd eraill. Doedden nhw ddim yn gallu siarad Hebraeg.