25 Felly dyma fi'n dod â cwyn yn eu herbyn nhw. Dyma fi'n galw melltith arnyn nhw, yn curo rhai o'r dynion, a tynnu eu gwallt. A dyma fi'n gwneud iddyn nhw fynd ar lw o flaen Duw, “Dych chi ddim i roi eich merched yn wragedd i'w meibion nhw, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'ch meibion nac i chi'ch hunain!
26 Onid dyma'r math o beth wnaeth i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd dim brenin tebyg iddo drwy'r gwledydd i gyd. Roedd yn annwyl yng ngolwg ei Dduw, a dyma Duw yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Ond dyma'r gwragedd o wledydd eraill yn gwneud hyd yn oed iddo fe bechu!
27 Felly ydy'n iawn i ni oddef y drwg yma dych chi'n ei wneud? Dych chi'n bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi'r merched estron yma!”
28 Roedd un o feibion Jehoiada, mab Eliashif yr archoffeiriad, wedi priodi merch Sanbalat o Horon. A dyma fi'n gwneud iddo adael y ddinas.
29 O Dduw, paid anghofio beth maen nhw wedi ei wneud. Maen nhw wedi halogi'r offeiriadaeth, a'r ymrwymiad mae offeiriaid a Lefiaid yn ei wneud.
30 Felly dyma fi'n eu puro nhw o bob dylanwad estron, ac yn rhoi cyfrifoldebau penodol i'r offeiriaid a'r Lefiaid.
31 Dyma fi hefyd yn trefnu amserlen i roi coed i'w losgi ar yr allor, a cynnyrch cyntaf y tir.O Dduw, cofia hyn o'm plaid i.