4 Beth amser cyn hyn i gyd, roedd Eliashif yr offeiriad wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y stordai yn y deml. Roedd Eliashif yn perthyn i Tobeia,
5 ac roedd wedi gadael i Tobeia ddefnyddio un o stordai y deml. Pethau'r deml oedd yn arfer cael eu storio yno – yr offrwm o rawn, y thus, offer y deml, a hefyd y degfed rhan o'r grawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd oedd i gael ei roi i'r Lefiaid, y cantorion, gofalwyr y giatiau, a cyfran yr offeiriaid.
6 Doeddwn i ddim yn byw yn Jerwsalem ar y pryd. Y flwyddyn pan oedd Artaxerxes, brenin Babilon, wedi bod yn teyrnasu ers tri deg dwy o flynyddoedd roeddwn i wedi mynd ato. Ond wedyn, beth amser ar ôl hynny, roeddwn i wedi gofyn am ganiatâd ganddo
7 i ddod yn ôl i Jerwsalem. A dyna pryd wnes i ddarganfod y drwg roedd Eliashif wedi ei wneud yn rhoi ystafell yng nghanol teml Dduw i Tobeia ei defnyddio.
8 Roeddwn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy.
9 Yna dyma fi'n dweud fod y stordai i gael eu puro cyn i offer y deml gael ei roi yn ôl ynddyn nhw, gyda'r offrwm o rawn a'r thus.
10 Dyma fi'n darganfod hefyd fod pobl ddim wedi bod yn rhoi eu cyfran o rawn i'r Lefiaid, ac felly roedd y Lefiaid a'r cantorion i gyd wedi gadael i weithio ar y tir.