8 Roeddwn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy.
9 Yna dyma fi'n dweud fod y stordai i gael eu puro cyn i offer y deml gael ei roi yn ôl ynddyn nhw, gyda'r offrwm o rawn a'r thus.
10 Dyma fi'n darganfod hefyd fod pobl ddim wedi bod yn rhoi eu cyfran o rawn i'r Lefiaid, ac felly roedd y Lefiaid a'r cantorion i gyd wedi gadael i weithio ar y tir.
11 Felly dyma fi'n mynd i gwyno i swyddogion y ddinas, a gofyn “Pam mae teml Dduw yn cael ei hesgeuluso?” Wedyn dyma fi'n galw'r Lefiaid yn ôl at ei gilydd, a rhannu eu cyfrifoldebau iddyn nhw.
12 Ar ôl hyn dechreuodd pobl Jwda i gyd ddod a'r ddegfed ran o'r grawn, sudd grawnwin ac olew olewydd i'r stordai eto.
13 Dyma fi'n gwneud Shelemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Lefiad o'r enw Pedaia yn gyfrifol am y stordai, a Chanan (oedd yn fab i Saccwr ac ŵyr i Mataneia) i'w helpu. Roedden nhw'n ddynion y gallwn i eu trystio. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai goruchwylio dosbarthu'r cwbl i'w cydweithwyr.
14 O Dduw, plîs cofia beth dw i wedi ei wneud. Paid anghofio'r cwbl dw i wedi ei wneud ar ran teml fy Nuw a'r gwasanaethau ynddi.