4 A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth wyt ti eisiau gen i?” Dyma fi'n gweddïo'n dawel ar Dduw y nefoedd,
5 ac yna dweud wrth y brenin, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, ac os ydy'ch gwas wedi'ch plesio chi, plîs anfonwch fi yn ôl i Jwda lle mae fy hynafiaid wedi eu claddu, i adeiladu'r ddinas eto.”
6 Yna dyma'r brenin, gyda'i wraig yn eistedd wrth ei ymyl, yn gofyn, “Am faint fyddet ti i ffwrdd, a pryd fyddet ti yn ôl?” Gan fod y brenin yn barod i adael i mi fynd, dyma fi'n rhoi dyddiad iddo.
7 A dyma fi'n dweud wrtho, “Os ydy'ch mawrhydi yn gweld yn dda, wnewch chi roi dogfennau i mi eu dangos i lywodraethwyr Traws-Ewffrates, i wneud yn siŵr fy mod yn cyrraedd Jwda'n saff.
8 Hefyd, llythyr i Asaff, sy'n gofalu am goedwig y brenin, iddo roi coed i mi – coed i wneud trawstiau ar gyfer giatiau'r gaer sydd wrth ymyl y deml, waliau'r ddinas, a'r tŷ fydda i'n aros ynddo.” A dyma'r brenin yn rhoi caniatâd i mi, achos roedd hi'n amlwg fod Duw gyda mi.
9 Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a cyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi.
10 Ond doedd Sanbalat o Horon, a Tobeia (y swyddog o Ammon), ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi cael ei anfon i helpu pobl Israel.