18 Yna Lefiaid eraill – Binnŵi fab Chenadad, pennaeth hanner arall ardal Ceila.
19 Ar ei ôl e, Eser fab Ieshŵa, pennaeth tref Mitspa, yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r llethr i fyny at y storfa arfau lle mae'r bwtres.
20 Wedyn Barŵch fab Sabbai yn gweithio ar y darn rhwng y bwtres a'r drws i dŷ Eliashif yr Archoffeiriad.
21 A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ.
22 Yr offeiriaid oedd yn gweithio ar y darn nesaf – dynion oedd yn byw yn y cylch.
23 Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e.
24 Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel.