21 A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ.
22 Yr offeiriaid oedd yn gweithio ar y darn nesaf – dynion oedd yn byw yn y cylch.
23 Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e.
24 Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel.
25 Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh
26 a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan.
27 Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel.