23 Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e.
24 Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel.
25 Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh
26 a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan.
27 Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel.
28 Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun.
29 Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf.