2 Dyma fe'n dechrau dweud o flaen ei ffrindiau a milwyr Samaria, “Beth mae'r Iddewon pathetig yma'n meddwl maen nhw'n wneud? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y gwaith eu hunain? Fyddan nhw'n offrymu aberthau eto? Ydych chi'n meddwl y gwnân nhw orffen y gwaith heddiw? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw ddod â'r cerrig yma sydd wedi llosgi yn ôl yn fyw?”
3 A dyma Tobeia o Ammon, oedd yn sefyll gydag e, yn dweud, “Byddai'r wal maen nhw'n ei chodi yn chwalu petai llwynog yn dringo arni!”
4 “O ein Duw, gwrando arnyn nhw'n ein bychanu ni! Tro eu dirmyg arnyn nhw eu hunain! Gwna iddyn nhw gael eu cipio i ffwrdd fel caethion i wlad estron!
5 Paid maddau iddyn nhw na cuddio eu pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!”
6 Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio.
7 Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a pobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw'n wyllt.
8 A dyma nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd i ymosod ar Jerwsalem a chreu helynt.